2 Chronicles 15

Diwygiadau Crefyddol Asa

11 Dyma ysbryd Duw yn dod ar Asareia fab Oded, 2a dyma fe'n mynd at y brenin Asa a dweud: “Gwrandwch arna i, Asa a phobl Jwda a Benjamin i gyd. Bydd yr Arglwydd gyda chi tra dych chi'n ffyddlon iddo fe. Bydd e'n ymateb pan fyddwch chi'n ei geisio. Ond os byddwch chi'n troi'ch cefn arno, bydd e'n troi ei gefn arnoch chi. 3Roedd Israel heb y Duw go iawn am amser maith, heb offeiriaid i'w dysgu ac heb Gyfraith. 4Ond yn eu helynt dyma nhw'n troi at yr Arglwydd, Duw Israel. Dyma nhw'n ei geisio, a dyma fe'n ymateb. 5Yr adeg yna doedd hi ddim yn saff i neb fynd a dod, am fod yna helyntion ofnadwy yn y gwledydd i gyd. 6Roedd un wlad yn dinistrio'r llall, a'r trefi yn dinistrio'i gilydd, am fod Duw wedi dod â phob math o helyntion arnyn nhw. 7Ond byddwch chi'n ddewr a pheidio llaesu dwylo, oherwydd fe gewch chi wobr am eich gwaith.”

8Roedd Asa'n teimlo'n llawer mwy hyderus ar ôl clywed beth ddwedodd y proffwyd Oded. Dyma fe'n cael gwared â'r holl eilunod ffiaidd oedd yn Jwda a Benjamin a'r trefi roedd wedi eu concro ym mryniau Effraim. Yna dyma fe'n trwsio'r allor oedd o flaen cyntedd teml yr Arglwydd.

9Casglodd bobl Jwda a Benjamin at ei gilydd, gyda phobl llwythau Effraim, Manasse a Simeon oedd wedi dod atyn nhw i fyw (Roedd llawer iawn o bobl wedi symud o Israel i Jwda ar ôl gweld fod yr Arglwydd ei Dduw gydag Asa.) 10Dyma nhw'n dod i Jerwsalem yn y trydydd mis pan oedd Asa wedi bod yn frenin am un deg pump o flynyddoedd. 11Dyma nhw'n aberthu i'r Arglwydd rai o'r anifeiliaid roedden nhw wedi eu cymryd yn ysbail, gan gynnwys saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid. 12Wedyn dyma nhw'n gwneud ymrwymiad i geisio yr Arglwydd, Duw eu hynafiaid, o ddifrif. 13Byddai pawb oedd yn gwrthod gwneud hynny yn cael eu lladd, hen ac ifanc, dynion a merched. 14Dyma nhw'n tyngu llw i'r Arglwydd gan weiddi, canu utgyrn a chwythu'r corn hwrdd
15:14 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
.
15Roedd pobl Jwda i gyd yn hapus i gymryd y llw, achos roedden nhw'n hollol o ddifrif. Roedden nhw wedi ceisio'r Arglwydd, ac roedd yntau wedi ymateb. Roedd yr Arglwydd wedi rhoi heddwch iddyn nhw o bob cyfeiriad.

16Yna dyma'r Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei falu'n fân, a'i losgi wrth Nant Cidron. 17Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol yn Israel roedd Asa yn ffyddlon i'r Arglwydd ar hyd ei oes. 18Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi eu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml Dduw.

19Fuodd dim rhyfel arall nes oedd Asa wedi bod yn frenin am dri deg pump o flynyddoedd.

Copyright information for CYM